Datganiad hygyrchedd ar gyfer Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru)

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Croatoan Design. Rydym am sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylai fod modd, er enghraifft, i chi:

• chwyddo maint y testun i 300% heb fod y testun yn mynd o’r golwg ar y sgrîn
• llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
• gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosibl.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn hollol hygyrch:

• Mae rhai delweddau’n cynnwys testun;
• Nid oes gennym gopi Word neu Destun Cyfoethog o ddogfennau PDF fel dewis amgen.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis dogfen PDF hygyrch, print bras, dogfen hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:

Anfonwch ebost i: NISB@gov.wales

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu’n ôl â chi cyn pen deg diwrnod gwaith.

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, anfonwch ebost i’r cyfeiriad canlynol: NISB@gov.wales. Os oes modd, anfonwch enghreifftiau ar ffurf sgrînlun ynghyd â manylion URL tudalennau penodol.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws o ran cydymffurfio

Oherwydd yr achosion o fethu â chydymffurfio a restrir isod, mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Cynnwys nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

• Delweddau yw penynnau rhai o’r tudalennau, ond caiff testun y pennyn ei gynnwys yn y testun y gellir ei ddefnyddio yn lle’r ddelwedd.

• Nid ydym wedi darparu dogfennau Word neu Destun Cyfoethog amgen ar gyfer dogfennau PDF. Rydym yn bwriadu ychwanegu’r fformatau amgen hyn yn ystod y misoedd nesaf, ac rydym yn cynllunio gwefan newydd ar gyfer dechrau 2021. Bydd gofynion dylunio’r wefan newydd yn cynnwys glynu wrth safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau.

Baich anghymesur

Amherthnasol.

Cynnwys nad yw’r rheoliadau hygyrchedd yn berthnasol iddo

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth gan sefydliadau diogelu eraill yn rheolaidd, a gaiff ei rhoi i ni ar ffurf dogfennau PDF neu Word, ac rydym yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’w lawrlwytho neu’i gweld gan ddefnyddio darllenydd sgrîn. Rydym hefyd yn cyhoeddi dogfennau megis Adroddiadau Blynyddol a llawlyfrau sydd wedi’u dylunio yn unol â’n brand. Caiff y dogfennau hyn eu dylunio bob amser gan ystyried hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn yn cynnig fersiynau Word neu HTML o’n hadroddiadau a’n dogfennau ein hunain o fis Medi 2020 ymlaen.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Deunydd fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw gan fod deunydd fideo byw wedi’i eithrio rhag gorfod bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Fel y nodwyd yn flaenorol, disgwylir y bydd y gwaith o ddylunio gwefan newydd yn cael ei osod ar dendr ddechrau 2021. Bydd gofynion dylunio’r wefan newydd yn cynnwys glynu’n gyfan gwbl wrth safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 23 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 22 Medi 2020.

Cafodd y prawf diwethaf ar y wefan hon ei gynnal ar 17 Medi 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Croatoan Design. Rhoddwyd prawf ar hafan y wefan – bwrdddiogelu.cymru – gan mai dyma’r dudalen sy’n cynnwys y nifer fwyaf o elfennau (ee testun, delweddau, eiconau, cefndiroedd lliw, troedyn) a bod gweddill y wefan yn defnyddio’r dudalen hon fel templed.

Lawrlwythwch copi